Sefydliad Ysgoloriaeth Robert David Hughes

Efallai y gallwn ni eich helpu chi….

Helpu Myfyrwyr Dinbych sy'n mynd i'r Brifysgol

Grantiau bach i bobol ifanc o Ddinbych sy’n dechrau eu gradd yn y DU

Croeso

Helo!
Ydech chi o Ddinbych ac ar fin dechrau gradd prifysgol yn y DU? Os felly, efallai y bydd Sefydliad Ysgoloriaeth Robert David Hughes yn gallu rhoi help llaw i chi gyda rhai o'ch costau..

Ein Stori

Ychydig bach o hanes…
Roedd Robert David Hughes yn byw yn Ninbych ac, ar ei farwolaeth ym 1946, gadawodd waddol hael i helpu ysgolheigion ifanc lleol. Arweiniodd y waddol hwn at greu Sefydliad Ysgoloriaeth Robert David Hughes, sydd bellach yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig a reolir gan Ymddiriedolwyr.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn barhaol, sy'n golygu mai dim ond at ei dibenion elusennol y gall ddosbarthu incwm. Fel hyn, bydd pobol ifanc o Ddinbych yn parhau i elwa am genedlaethau i ddod.

Ydych chi'n gymwys?

Efallai y byddwch yn gymwys os gallwch ateb ie i unrhyw un o'r canlynol:

    • A gawsoch chi eich geni yng Nghymuned Dinbych?
    • A oedd un neu'r ddau o'ch rhieni yn byw yng Nghymuned Dinbych pan gawsoch chi eich geni?
    • A ydw un neu'r ddau o'ch rhieni wedi byw yng Nghymuned Dinbych am o leiaf ddeng mlynedd yn gyfan gwbl (ac yn dal i wneud)?

I wirio a gawsoch eich geni yng Nghymuned Dinbych, edrychwch ar y map hwn

Yr Hyn Sydd Angen i Chi Ei Wneud

  1. Cadarnhewch eich bod wedi sicrhau lle mewn prifysgol yn y DU il astudio am radd.
  2. Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais.
  3. Anfonwch eich cais wedi'i gwbwlhau gyda thystiolaeth o gymhwysedd, i’r cyfeiriad a restrir yn y PDF.
  4. Ar ôl cael eich derbyn, darparwch ardystiad bob tymor gan eich prifysgol yn cadarnhau eich bod yn parhau i astudio.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Dderbyn

  • Telir grantiau dair gwaith y flwyddyn yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc.
  • Mae'r swm fesul blwyddyn academaidd a gall amrywio yn dibynnu ar incwm yr Ymddiriedolaeth a hefyd y nifer o ymgeiswyr.
  • Dros y tair blynedd diwethaf, y grant cyfartalog fu £470 y flwyddyn.
  • Nod yr Ymddiriedolwyr yw cadw gwerth y grantiau mor gyson â phosibl ond ni allant warantu swm penodol.

Camau Nesaf

  • Os ydych chi'n gymwys: Ewch amdani a gwnewch gais trwy glicio ar y ddolen lawrlwytho isod!
  • Ddim yn siŵr? Gwnewch gais beth bynnag, a byddwn yn eich helpu i asesu eich cymhwysedd.
  • Ddim yn gymwys? Mae'n ddrwg gennym, a gobeithiwn y byddwch yn llwyddo trwy lwybrau eraill.

Gyda'n dymuniadau gorau,
Ymddiriedolwyr Elusen Sefydliad Ysgoloriaeth Robert David Hughes